Back to all posts

Pan nad ydy eich plentyn eisiau ymuno

Kick Cymru coaching team ·

Mae llawer o blant 2 i 5 oed yn aros yn ôl yn eu sesiynau cyntaf. Mae hynny’n normal, ac dydy o ddim yn golygu na fyddan nhw’n mwynhau pêl-droed.

Beth dan ni’n ei wneud

  • Dan ni’n gadael i blant wylio o’r ochr efo oedolyn cyhyd ag y mae angen.
  • Dan ni’n gwahodd, byth yn gwthio. Mae “Hoffet ti ruo fel draig?” yn gweithio’n well na “Dos yn dy flaen, ymuna.”
  • Dan ni’n rhoi swydd fach i bob plentyn, fel cario côn neu ddewis y gêm nesaf.

Beth allwch chi ei wneud

  • Arhoswch yn agos ar y dechrau a chamwch yn ôl ychydig bach mwy bob wythnos.
  • Siaradwch am beth fydd yn digwydd cyn i chi gyrraedd.
  • Dathlwch lwyddiannau bach. Mae sefyll ar y cae yn cyfri.

Mae hunanhyder yn tyfu o lawer o eiliadau bach lle mae plentyn yn teimlo’n saff ac yna’n teimlo’n ddewr.

Free for parents

Dewi’s free play-at-home planner

Four weeks of tiny football games for your little one, five minutes a day. Pop your email in and we’ll send you the free planner.